Ein Duw roes ini le
Rho'w'd ini yma le
Rhoed i ni yma le
Rhow'd ini yma le

(Lle yn yr Eglwys yn Fraint)
Rho'w'd ini yma le,
  O dan y ne'n ein dŷ;
Ar fyr fy ddenfyn Iesu'n hol
  I'w gôl i Salem fry.

Fe glwy ein cri a'n cŵyn
  Yn addfwyn er ei glod;
Ein beichiau parod yw eu dwyn
  Ffyddlonaf fu erioed.

Mae ynddo fôr didrai
  O gariad ac o hedd;
Mae cariad Iesu yn parhau
  Tu yma ' thraw i'r bedd.

Pam digalwn mwy?
  Ni gawsom ryfedd fraint;
Mae breintiau eto'n ol
    sydd fwy,
  Nas gwyddom ni pa faint.

           - - - - -

Ein Duw roes ini le
  O dan y ne 'n ei dŷ;
Ar fyr fe ddenfyn Iesu i'n nol
  I'w gôl i Salem fry.

Pa'm digalonwn mwy?
  Ni gawsom ryfedd fraint:
Mae breintiau eto'n ol
    sydd fwy
  Nas gwyddom ni pa faint.

Mae ynddo fôr didrai
  O gariad ac o hedd;
Mae cariad Iesu yn parhau
  Tu yma a thraw i'r bedd.

Fe glyw ein cri a'n cwyn,
  Yn addfwyn, er ei glod;
Ein beichiau parod yw eu dwyn
  Ni bu ei fath erioed.
John Thomas 1730-1803

Tonau [SM 6686]:
Olmutz (Lowell Mason 1792-1872)
Tytherton (Lewis Renatus West 1753-1826)

gwelir:
  Ei 'nabod Ef yn iawn
  Yr Iesu glyw ein cwyn

(A Place in the Church a Privilege)
A place was given to us here,
  Under heaven in our house;
Shortly Jesus shall deliver us back
  To his bosom in Salem above.

He hears our cry and our complaint
  Gently for his praise;
Our burdens ready he is to carry
  The most faithful that ever was.

In him is an unebbing sea
  Of love and of peace;
The love of Jesus is enduring
  This and yonder side of the grave.

Why should we lose heart any more?
  We got a wonderful privilege;
There are privileges still left
    that are greater
  Than we knew how great.

              - - - - -

Our God gave us a place
  Under heaven in his house;
Shortly he will send Jesus to fetch us
  To his bosom to Salem above.

Why would we be disheartened any more?
  We got a wonderful privilege:
There are privileges still left
    which are greater
  Than we know how great.

There is in him an unebbing sea
  Of love and of peace;
The love of Jesus endures
  This side and beyond the grave.

He hears our cry and our complaint,
  Gently, for his praise's sake;
Our burdens he is ready to bear,
  There never was his like.
tr. 2010,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~